Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 27 Medi 2022
Amser:
09.04 -
09.35
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog yr wythnos hon a thynnodd sylw Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol:
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth 4 Hydref 2022 –
· Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip: Treftadaeth y Byd yng Ngogledd-orllewin Cymru (30 munud) - gohiriwyd o 27 Medi
Nododd y Trefnydd fod y Llywodraeth yn ystyried a fyddai modd symud unrhyw eitemau o fusnes ymlaen o 11 Hydref i 4 Hydref er mwyn gwella cydbwysedd y busnes sydd wedi'i drefnu ar gyfer y cyfarfodydd hynny.
Dydd Mawrth 11 Hydref 2022 –
·
Rheoliadau’r Cynllun Morol,
Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15
munud)- gohiriwyd tan
18 Hydref
·
Gorchymyn Cynllun Masnachu
Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 3) 2022 (15
munud) - gohiriwyd tan
18 Hydref
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i newid y cwestiynau llafar i Weinidog yr Economi ar 12 Hydref gyda naill ai’r cwestiynau llafar i'r Gweinidog Newid Hinsawdd neu Weinidog y Gymraeg ac Addysg, a drefnwyd ar gyfer 19 Hydref, yn amodol ar gael cadarnhad gan y Llywodraeth.
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 19 Hydref 2022 –
3.4 Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 5 Hydref.
NNDM8074
Mark Isherwood
Cyd-gyflwynwyr:
Rhun ap Iorwerth
Sam Rowlands
Tom Giffard
Mabon ap Gwynfor
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) yr effaith a gaiff meigryn ar yr 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc sy'n byw gyda'r cyflwr, gan gynnwys yn yr ysgol a'u bywydau o ddydd i ddydd;
b) bod pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt yn aml yn nodi ei fod yn ei gwneud hi'n anoddach i wneud eu gwaith ysgol, gan olygu y gall y cyflwr effeithio ar eu cyrhaeddiad addysgol heb gymorth priodol, yn ogystal ag amharu ar eu bywyd teuluol a chymdeithasol;
c) bod ymchwil gan y Migraine Trust yn awgrymu nad yw gweithwyr addysg a gweithwyr iechyd proffesiynol yn aml yn deall meigryn, ac yn aml nid oes ganddynt fynediad at hyfforddiant ac adnoddau i roi cefnogaeth effeithiol i blant a phobl ifanc y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt;
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn:
a) cryfhau'r canllawiau;
b) darparu hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt; a
c) darparu adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain.
4 Deddfwriaeth
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
Nododd y Pwyllgor Busnes yr ohebiaeth a dderbyniwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a chytunodd i ymateb i'r llythyr. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r Bil at Bwyllgor cyfrifol i ystyried yr egwyddorion cyffredinol yn sgil y gwaith y mae'r Pwyllgor wedi gallu ei wneud yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac i gytuno ar yr amserlen arfaethedig i ystyried y Bil.
5 Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell
5.1 Drafft o ganllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canllawiau yn amodol ar ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion ar yr elfennau sy'n ymwneud â busnes pwyllgorau yn ei gyfarfod nesaf. Caiff y canllawiau diweddaraf sy'n ymwneud â busnes y Cyfarfod Llawn eu cyhoeddi a'u darparu i'r Aelodau ar ôl datrys ymholiad technegol yn ymwneud â'r defnydd o iPads gan yr Aelodau ar gyfer pleidleisio, gyda'r canllawiau terfynol i ddilyn ar ôl ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion.
6 Unrhyw faterion eraill
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Rhoddodd y Trefnydd ddiweddariad ar lafar ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol yn ymwneud â Bil y Bil Hawliau a’r Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol. Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor na fydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Biliau hyn ar hyn o bryd oherwydd ansicrwydd ynghylch eu taith yn San Steffan, ond bydd yn rhoi diweddariad pellach unwaith y daw'r sefyllfa'n gliriach.
Diwygio’r Senedd
Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd papur yn cynnwys rhagor o fanylion am y dull arfaethedig o ystyried materion yn ymwneud â Bil Diwygio'r Senedd sydd yn yr arfaeth yn cael ei gyflwyno i'w ystyried yn y cyfarfod ar 4 Hydref, ac y rhoddir cyfle i Reolwyr Busnes gael sesiwn friffio gyda swyddogion sy'n cefnogi'r Pwyllgor Busnes cyn hynny.
Amserlen y Pwyllgorau
Cododd Siân Gwenllian fater yn ymwneud â chydamseru'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r effaith ar aelodau grŵp Plaid Cymru, oherwydd bod y pwyllgorau'n gwneud defnydd rheolaidd o'u slotiau wrth gefn. Nododd y Pwyllgor Busnes fod y newidiadau i'r amserlen wedi eu gwneud mewn ymateb i geisiadau'r pwyllgorau am fwy o amser cyfarfod, ac nad oedd gwrthdaro ar hyn o bryd o ran aelodaeth o fewn yr amserlen. Cytunwyd y byddai swyddogion yn trafod y mater presennol yn uniongyrchol gyda'r pwyllgorau o dan sylw er mwyn nodi unrhyw ddatrysidau ymarferol.